2015 Rhif 1937 (Cy. 291)

DIOGELU’R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009 (“Rheoliadau 2009”) sy’n parhau i weithredu Cyfarwyddeb 2004/35/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar atebolrwydd amgylcheddol o ran atal ac adfer difrod amgylcheddol.

Mae rheoliad 3 yn diwygio’r diffiniadau “cynefin naturiol (“natural habitat”) a “rhywogaethau a warchodir” (“protected species”) i adlewyrchu’r ffaith bod Cyfarwyddeb 2009/147/EC yn cydgrynhoi ac yn disodli Cyfarwyddeb 79/407/EEC.

Mae rheoliad 4 yn diwygio paragraff 5 o Atodlen 1 i Reoliadau 2009 i ddiweddaru cyfeiriadau at ddeddfwriaeth y gellir awdurdodi gwneud difrod i rywogaethau a warchodir a chynefinoedd naturiol, a difrod ar safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, o dani.

Mae rheoliad 5 yn diweddaru’r rhestr o ddeddfwriaeth yr UE yn Atodlen 2 i Reoliadau 2009, sy’n cyfeirio at y gweithgareddau a fydd yn denu atebolrwydd caeth. Nid effeithir ar natur y gweithgareddau yn y rhestr.

Mae cyfeiriadau at holl ddeddfwriaeth yr UE, ac eithrio Cyfarwyddeb 2004/35/EC yn gyfeiriadau at ddeddfwriaeth fel y’i diwygir o dro i dro.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.


2015 Rhif 1937 (Cy. 291)

DIOGELU’R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2015

Gwnaed                            24 Tachwedd 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       27 Tachwedd 2015

Yn dod i rym                        18 Rhagfyr 2015

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi([1]) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (“Deddf 1972”)([2]) mewn perthynas ag atal ac adfer difrod amgylcheddol ac maent yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno fel y’i darllenir gyda pharagraff 1A o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno([3]).

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009 (“Rheoliadau 2009”)([4]). Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno. At ddibenion Rheoliadau 2009 fel y maent yn cael effaith fel y’u diwygir gan y Rheoliadau hyn, mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i offerynnau’r UE y cyfeirir atynt yn Rheoliadau 2009 gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o dro i dro.

Enwi a chychwyn

1.(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2015.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 18 Rhagfyr 2015.

Diwygiadau i Reoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009

2. Mae Rheoliadau Difrod (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 5.

3. Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—

(a)     yn y diffiniad o “cynefin naturiol” (“natural habitat”) yn lle paragraff (a) rhodder—

(a) cynefinoedd rhywogaethau a grybwyllir yn Erthygl 4(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2009/147/EC ar warchod adar gwyllt([5]), neu yn Atodiad I i’r Gyfarwyddeb honno, neu a restrir yn Atodiad II i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC ar warchod cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt([6]);;

(b)     ar gyfer y diffiniad o “rhywogaethau a warchodir” (“protected species”) rhodder—

ystyr “rhywogaethau a warchodir” (“protected species”) yw rhywogaethau o fath a grybwyllir yn Erthygl 4(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2009/147/EC neu a restrir yn Atodiad I i’r Gyfarwyddeb honno neu Atodiadau II a IV i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC;

4. Yn Atodlen 1 (Difrod i rywogaethau a warchodir, cynefinoedd naturiol a safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig), yn lle paragraff 5 rhodder—

5. Awdurdodiad pendant

Nid yw difrod i rywogaethau a warchodir neu gynefinoedd naturiol, a difrod i safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, yn cynnwys difrod a achoswyd gan weithred a awdurdodwyd yn bendant gan yr awdurdodau perthnasol yn unol â Rhan 2 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981([7]) neu Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010([8]).

5. Yn Atodlen 2 (Gweithgareddau sy’n achosi difrod)—

(a)     yn lle paragraff 2 (Gweithredu gweithfeydd a ganiateir) rhodder—

2. Gweithredu gweithfeydd a ganiateir

Gweithredu gweithfeydd sy’n ddarostyngedig i drwydded yn unol â Chyfarwyddeb 2010/75/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch allyriadau diwydiannol (dulliau integredig o atal a rheoli llygredd)([9]).

(b)     ym mharagraff 3(2) (Gweithrediadau rheoli gwastraff) yn lle’r geiriau “Gyfarwyddeb 2000/76/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar hylosgi gwastraff” rhodder “Gyfarwyddeb 2010/75/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor ar allyriadau diwydiannol (dulliau integredig o atal a rheoli llygredd).”;

(c)     ym mharagraff 5(2) (Gollyngiadau y mae’n ofynnol cael awdurdodiad ar eu cyfer) ar ôl y gair “penodol” mewnosoder “neu Gyfarwyddeb 2006/118/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ddiogelu dŵr daear rhag llygredd a dirywiad([10])”;

(d)     (ch)      ym mharagraff 7(ch) (Sylweddau peryglus, cynhyrchion diogelu planhigion a chynhyrchion bywleiddiol) ar ôl y gair “farchnad”, mewnosoder “neu fel y’u diffinir yn Erthygl 3(1)(a) o Reoliad Rhif 528/2012 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch rhoi cynhyrchion bywleiddiol ar gael ar y farchnad a’r defnydd ohonynt([11])”.

(e)     yn lle paragraff 8 rhodder—

8. Cludiant

Cludo ar hyd ffordd, rheilffordd, dyfrffyrdd mewndirol, ar y môr neu drwy’r awyr nwyddau peryglus; neu nwyddau llygru fel y’u diffinnir yn—

(a)   Cyfarwyddeb 2002/59/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar sefydlu system fonitro traffig a gwybodaeth llestrau Cymunedol([12]); a

(b)  Cyfarwyddeb 2008/68/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gludo nwyddau peryglus ar y tir([13]).

(f)      Yn Atodlen 2 ar ôl paragraff 10 mewnosoder—

11. Gweithredu safleoedd storio carbon deuocsid

Gweithredu safleoedd storio carbon deuocsid yn unol â Chyfarwyddeb 2009/31/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar storio daearegol o garbon deuocsid([14]).

 

Carl Sargeant

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru

24 Tachwedd 2015

 



([1])           O.S. 2014/1890.

([2])           1972 p.68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p.51) a Rhan 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p.7).

([3])           Mewnosodwyd paragraff 1A yn Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 ac fe’i diwygiwyd gan O.S. 2007/1388.

([4])           O.S. 2009/995 (Cy. 81); yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2011/556, 2011/971 (Cy. 141), 2012/630, 2013/755 (Cy. 90) a 2015/1394 (Cy. 138). Offerynnau diwygio eraill nad ydynt yn berthnasol i’r dibenion hyn yw O.S. 2011/1043 ac O.S. 2011/2131.

([5])           OJ Rhif L 20, 26.01.2010, t.7; diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2013/17/EU (OJ Rhif L 158, 10.06.2013, t.193).

([6])           OJ Rhif L 206, 22.07.1992, t.7; diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2013/17/EU (OJ Rhif L 158, 10.06.2013, t.193).

([7])           1981 p. 69.

([8])           O.S. 2010/490, diwygiwyd gan O.S. 2011/603, 2011/625, 2012/630, 2012/635, 2012/637, 2012/1927, 2013/755 (Cy. 90) ac O.S. 2015/377.

([9])           OJ Rhif L 334, 17.12.2010, t.17.

([10])         OJ Rhif L 372, 27.12.2006, t.19, diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2014/80/EU (OJ Rhif L 182, 21.6.2014, t.52).

([11])         OJ Rhif L 167, 27.6.2012, t.1; diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (UE) Rhif 334/2014 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 103, 5.4.2014, t.22).

([12])         OJ Rhif L 208, 5.8.2002, t.10; diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2014/100/EU (OJ Rhif L 308, 29.10.2014, t.82).

([13])         OJ Rhif L 260, 30.9.2008, t.13; diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2015/974/EU (OJ Rhif L 157/53, 17.6.2015, t.53).

([14])         OJ Rhif L 140, 5.6.2009, t.114; diwygiwyd gan Gyfarwyddeb 2011/92/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 26, 28.1.2012, t.1).